![]() |
|||||
|
Os na allwch weld yr e-bost hwn yn iawn, edrychwch ar y fersiwn ar-lein Mae golchi dwylo yn achub bywydau, yn sicr
Cofiwch edrych ar ein tudalennau O Amgylch Cymru sy’n prysur dyfu - ac anfonwch eich straeon a’ch newyddion atom. CroesoWrth i’r GIG ddathlu ei ben-blwydd yn 60 oed, rhoddwyd sylw i’r llwyddiannau a’r cynnydd anhygoel a gyflawnwyd dros y trigain mlynedd diwethaf. Mae’r gwasanaeth iechyd yn parhau i fod yn destun cenfigen ledled y byd, er gwaetha’r ffaith ein bod yn ymwybodol o’i ffaeleddau. Mae’r gwaith yr ydych yn ei wneud fel rhan o’r Ymgyrch 1000 o Fywydau yn adlewyrchiad o’r rheswm y sefydlwyd y GIG - i achub bywydau. Mae hyn yn adlewyrchu unwaith eto ofal ac ymrwymiad staff y GIG i wella gofal iechyd i gleifion. Diolch yn fawr i chi am eich holl waith yn ystod y flwyddyn arbennig hon (fel ym mhob blwyddyn arall!) ac am baratoi'r gwasanaeth ar gyfer y trigain mlynedd nesaf. Pen-blwydd Hapus i’r GIG! "Maent yn glod i’r GIG," meddai un o gleifion adran damweiniau ac achosion brys
Mae Karen Francis, mam i ddau o blant o Fryncethin, yn llawn canmoliaeth am staff Adran Damweiniau ac Achosion Brys Ysbyty Tywysoges Cymru. Darllenwch ei hanes yn llawn. Pen-blwydd Hapus i’r GIG yn 60 oed!
NEWYDD DDOD I LAW: Bydd Dr Berwick yn siarad yn Sesiwn Ddysgu nesaf yr Ymgyrch yn Abertawe yn yr hydref. Cofiwch...Gall staff y GIG gael mynediad i fewnrwyd yr Ymgyrch yn http://nww.1000livescampaign.wales.nhs.uk lle ceir rhagor o fanylion am yr Ymgyrch. Y ddolen gywirNodwch y bydd y dolenni yn y rhifyn hwn o’r e-Fwletin yn eich arwain i safle mewnrwyd yr Ymgyrch (nww), sydd ar gael yn Saesneg yn unig. Os na allwch gael mynediad i’r fewnrwyd, cliciwch ar y dolenni canlynol i gyrraedd gwefan yr Ymgyrch ar y rhyngrwyd (www). |
Teithiau o Amgylch WardiauMae creu wardiau taclus, a chyfathrebu’n amserol gyda’r staff, yn ddau o welliannau o blith llawer a wneir i ddiogelwch cleifion - diolch i fenter newydd gan Ymddiriedolaeth Caerdydd a’r Fro. Mae taith wythnosol o amgylch wardiau gan Gyfarwyddwyr gweithredol ac arweinwyr clinigol yn rhan o ymrwymiad cynyddol yr Ymddiriedolaeth i greu diwylliant diogel. Darllenwch fwy Trawsnewid Gofal wrth Erchwyn y Gwely
Darllenwch neu gwrandewch ar farn Annette am y maes hwn o’r Ymgyrch sy’n cael ei dreialu. Esbonio Swyddogaeth Cynghorwyr Gwella IechydMae gan Gynghorwyr Gwella Iechyd ran allweddol i’w chwarae yn yr Ymgyrch 1000 o Fywydau drwy gefnogi Ymddiriedolaethau a BILlau ledled Cymru.
Ond pwy ydyn nhw a beth yn union yw eu rôl? Dewch i gyfarfod Deborah Doig-Evans a Joy Whitlock. Darllenwch fwy Hoffem glywed gennych...Rydych yn gwneud gwahaniaeth - rhowch wybod i ni er mwyn i ni allu cynnwys eich stori am eich staff a’ch cleifion. Ymgyrch 1000 o Fywydau Cynhelir yr Ymgyrch ar y cyd rhwng Asiantaeth Genedlaethol Arwain ac Arloesi mewn Gofal Iechyd, Asiantaeth Genedlaethol Diogelwch Cleifion, y Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol, Canolfan Iechyd Cymru ac Uned Cynorthwyo a Datblygu Llywodraethu Clinigol Llywodraeth Cynulliad Cymru. |
||||