![]() |
|
|
Os nad ydych yn gallu gweld yr e-bost hwn yn iawn, edrychwch ar y fersiwn ar-lein
Yr Ymgyrch yn eich ardal chi
"Meddyliwyd am y slogan ‘mynd yr ail filltir’, i ddangos ein hymrwymiad i gymryd y camau ychwanegol hynny i wella’r gwasanaethau a ddarparwn i’n cleifion... meddai Cathy Howe, Pennaeth Llywodraethu Clinigol. Yna penderfynasom nad oedd gwell ffordd o ddangos yr ymrwymiad hwnnw na..." Darllenwch fwy CroesoMae sefydliadau ledled Cymru yn cynllunio eu hachlysuron lansio lleol eu hunain i godi proffil yr Ymgyrch ymysg eu staff a’u cleifion. Mae ein herthygl gyntaf yn canolbwyntio ar un o’r achlysuron lansio hynny - a’i effaith ar gyfleu ein hymrwymiad i gleifion. Efallai eich bod wedi gweld tîm yr Ymgyrch yn ymweld â’ch sefydliad, wrth inni ddechrau’r rownd gyntaf o ymweliadau ag Ymddiriedolaethau’r GIG a BILlau sy’n cymryd rhan. Mae wedi bod yn wych cyfarfod â chi a chlywed sut yr ydych eisoes yn rhoi’r ymyriadau i achub bywydau ar waith ac yn eu haddasu ar gyfer eich meysydd gwaith eich hunain. Bydd rhagor o adborth am yr ymweliadau hyn yn y rhifyn nesaf. Mae’r neges am yr Ymgyrch yn sicr yn mynd ar led - a chyda’ch cymorth chi - mae’r cleifion eisoes yn gweld ei heffeithiau cadarnhaol. "Diolch am achub fy mywyd," meddai un o gleifion y galon
Mae pensiynwr o Rydaman, John Lyons, yn llawn canmoliaeth am y gofal a gafodd gan dîm o staff yn adran y galon yn Ysbyty Treforys, Abertawe. Darllenwch yr hanes yn llawn. Cofiwch ymweld â’n hadran O Amgylch Cymru a chynllunio i anfon eich hanesion a’ch newyddion atom. Oes gennych chi hanes claf y gallwn ei gynnwys mewn rhifyn o’r e-Fwletin yn y dyfodol? E-bostiwch yr Ymgyrch 1000 o Fywydau heddiw. Yr Allrwyd - offeryn i rannu dysgCraidd yr Ymgyrch yw annog sefydliadau i rannu arferion da a dysg - gan gydnabod bod "meysydd rhagoriaeth" ledled Cymru. Mae sefydliadau wedi dechrau defnyddio’r allrwyd yn ddiweddar, sef offeryn ar-lein a ddatblygwyd gan yr Athrofa Gwella Gofal Iechyd (IHI). Darllenwch fwy Y ddolen gywirNodwch y bydd y dolenni yn y rhifyn hwn o’r e-Fwletin yn eich arwain i safle mewnrwyd yr Ymgyrch (nww), sydd ond ar gael yn Saesneg. Os na allwch gael mynediad i’r fewnrwyd, cliciwch ar y dolenni canlynol i gyrraedd gwefan yr Ymgyrch ar y rhyngrwyd (www). Yr ymgyrch yn eich ardal chi Llongyfarchiadau i Felicity Barclay a benodwyd yn ddiweddar fel Rheolwr Prosiect yr Ymgyrch. Nid yw Felicity yn newydd i’r Ymgyrch - yn wir, bu’n rhan ohoni o’r cychwyn gan weithio fel Rheolwr Prosiect dros dro ers ei lansio ym mis Mawrth. |
Y Gyfadran yn croesawu dau aelod newyddMae’r Gyfadran Gwella Gofal Iechyd, a fu’n gyfrifol am ddylunio a monitro meysydd yr Ymgyrch, wedi penodi dau aelod newydd. Gwahoddwyd Dr Stephen Hunter, Cyfarwyddwr Meddygol Cyswllt Ymddiriedolaeth GIG Gofal Iechyd Gwent, i fod yn Uwch Gynghorydd er mwyn datblygu gwaith y Gyfadran. Bydd yn tynnu ar ei brofiad o sefydlu ac arwain y Gyfadran Glinigol yng Ngwent ac mae’n arbenigo mewn gwella ansawdd a gwasanaethau. Mae Sharon Mayor yn ymuno fel Cydgysylltydd y Gyfadran ar secondiad deuddydd yr wythnos o Ymddiriedolaeth GIG Caerdydd a’r Fro lle mae’n Nyrs Arwain ar gyfer Ymchwil a Datblygu. Gwella Arweinyddiaeth er Budd Ansawdd
Mae plac yr Ymgyrch ar gael nawr
Lledaenu’r GairCeisiwch gynnwys yr Ymgyrch 1000 o Fywydau ar eich agendâu ym mhob cyfarfod cyfathrebu. I gael rhagor o syniadau am sut i ledaenu’r gair am yr Ymgyrch 1000 o Fywydau, darllenwch y Cynllun Gweithredu ar Gyfathrebu’n Lleol. Hoffem glywed gennych...Mae’r Ymgyrch hon yn ymwneud â chi, yr hanes yn eich ardal chi a’r cleifion yr ydych yn newid eu bywydau. Cysylltu â'r Ymgyrch 1000 o Fywydau Cynhelir yr Ymgyrch ar y cyd rhwng yr Asiantaeth Genedlaethol Arwain ac Arloesi mewn Gofal Iechyd, yr Asiantaeth Genedlaethol Diogelwch Cleifion, y Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol, Canolfan Iechyd Cymru ac Uned Cynorthwyo a Datblygu Llywodraethu Clinigol Llywodraeth Cynulliad Cymru. |